Adroddiad Blynyddol 2017

Rhagair.

Rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o’n gwaith yn Hafan Cymru, a hynny mewn ffordd sy’n ddiddorol a llawn gwybodaeth.

Cafodd ein busnes ei greu yn 1989 er mwyn cynnig hafan, cymorth a gwasanaethau arbenigol i bobl ledled Cymru sydd ag anghenion a heriau amrywiol ac a allai fod mewn argyfwng. Roedd mawr angen am hynny.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cael effaith ar lawer o fywydau trwy Gymru, trwy ddarparu gwasanaethau cymorth trwy raglenni sydd wedi eu cyllido gan y rhaglen Cefnogi Pobl, a hynny yn 16 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, yn ogystal â thrwy ein his-gwmni, Gwasanaethau Cam-drin Domestig Sir Gaerfyrddin. Yn ogystal, rydym wedi gallu cynnig cymorth i lawer rhagor o bobl ar draws Cymru trwy ein prosiectau Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig (IDVA), ein cytundebau Teuluoedd yn Gyntaf a’n gwaith partneriaeth yn Siopau un Stop Abertawe, Castell Nedd a Hwlffordd.

Fe lwyddon ni i ennill nifer o gytundebau newydd yn ystod y flwyddyn, a’r rheiny’n dod â ffynonellau ariannol newydd i’r busnes ac fe lwyddon ni i sicrhau cyllid i barhau gyda’n Prosiect Sbectrwm ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, sy’n gweithio mewn ffordd sensitif iawn i godi ymwybyddiaeth o bynciau anodd ym maes trais a cham-drin. Roeddem wrth ein boddau i dderbyn Gwobr yr Uchel Siryf am ein Prosiect Men’s Sheds llwyddiannus iawn!  Cawsom ein Dyfarniad Rheoleiddio cyntaf yn ein swyddogaeth yn Gymdeithas Tai; roedd hwnnw’n tynnu sylw at ein llwyddiant busnes ond yn cydnabod bod angen gwneud rhagor o ran Llywodraethu a Hyfywedd Ariannol. Roedd disgwyl hyn, gan ein bod yn wynebu rhai heriau anodd o ran ein ffynonellau ariannol yn ystod y blynyddoedd nesaf, oherwydd y perygl o ostyngiad mewn cyllid Cefnogi Pobl ac effaith y diwygiadau lles a’r Lwfans Tai Lleol. Mae ein gwaith ar gynlluniau cyllido newydd eisoes yn mynd i’r afael â’r problemau hyn.

Rydym hefyd wedi ffreshau ein Bwrdd Rheoli gan ddenu aelodau newydd gyda chymwysterau da. Aethom ati mewn sawl ffordd i gryfhau gwytnwch y busnes ac i’n galluogi i wynebu heriau newydd. Roedd y rhain yn cynnwys ad-drefnu staff hŷn a staff llinell-flaen, adolygiadau o’n dulliau rheoli eiddo, arolwg TG, gostyngiad mewn gorbenion a gwella ein llif arian.

Daw’r flwyddyn nesa’ â rhagor o lwyddiant a heriau, yn arbennig ym maes comisiynu gwasanaethau; fodd bynnag, rydym yn teimlo ein bod yn barod i ymateb ac yn edrych ymlaen at holl gyfleoedd y dyfodol.

Sian Morgan – Prif Swyddog Gweithredol

John Morgan – Cadeirydd y Bwrdd Rheoli

Pwy rydyn ni'n gefnogi.

Cyfanswm y menywod, y dynion a’u teuluoedd a gafodd gymorth trwy wasanaethau a phrosiectau Hafan Cymru .

Cyfanswm prosiectau pobl ifanc

9

Cyfanswm y gwelyau

500

Cyfanswm cytundebau Cymorth fel y bo’r Angen

31

Cyfanswm Llochesi a Llochesi ar Wasgar

4

Cyfanswm prosiectau tai

19

Rhaglenni Cefnogi Pobl

Mae’r rhaglen Cefnogi Pobl yn cynnig cymorth ym maes tai i helpu pobl agored i niwed i fyw mor annibynnol â phosibl.

Stori Amy.

(yr enw wedi’i newid)

Amy ydw i. Fe ges fy nghyfeirio at Hafan Cymru gan wasanaeth Cam-drin Domestig arall, oherwydd dw i ddim yn dod o dde Cymru ac ro’n i’n dianc rhag cam-drin dychrynllyd gan fy mhartner ar y pryd. Does gen i ddim record dda gyda dynion; mae sawl un o ’mhartneriaid wedi cam-drin a rwy’n ymwybodol fod hynny wedi effeithio ar fy iechyd meddwl a hynny wedi fy arwain i ddefnyddio cyffuriau ac alcohol.

Roedd y cam-drin yn wael, ac mae’n bwnc anodd ond roedd fy mhlant wedi cael eu cymryd oddi arna’ i oherwydd y cam-drin yr oedden nhw wedi’i ddiodde’ ac wedi’i weld eu hunain. Ro’n i’n ddigartref ac i mewn a mas o asiantaethau oherwydd problemau iechyd meddwl a cham-drin sylweddau.

Galla’ i ddweud yn onest fod fy mywyd yn annibendod llwyr cyn Hafan Cymru. Ro’n i’n dianc rhag 3 dyn oedd yn byw gerllaw fy nheulu; roedd un ar fin cael ei ollwng o’r carchar ac roedd hynny’n fy arswydo. Cyn i fi fod yn ddigartref, ro’n i’n byw gyda fy nghyn-bartner, a oedd yn fy ngham-drin yn ddrwg, yn creu uffern i fi, yn fy ngham-drin yn gorfforol ac yn rhywiol ac wrth ei fodd yn chwarae gêmau’r meddwl. Ro’n i’n gwneud defnydd trwm o gyffuriau ac arweiniodd hynny at ddwyn gan fod rhaid i fi dalu rhywsut am fy arferion. Ro’n i mewn cylch dieflig ar i lawr; ro’n i’n cwympo a chwympo gan gael fy nhynnu’n ôl o hyd i le tywyll. Gan nad oedd gyda fi unman arall i fyw, a neb arall i fy helpu fi, fe wnes i’r penderfyniad i gysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol. Ro’n i’n gwybod yn fy nghalon bod rhaid i bethau newid. Cafodd fy mhlant eu rhoi mewn gofal maeth a dyna pryd y gwnes i gysylltu â’r asiantaethau.

Fe symudais i i mewn i un o dai Hafan Cymru a chael cymorth i greu fy nghartref fy hun. Ro’n i’n gwybod pwy i gysylltu â nhw os oedd pethau’n mynd o chwith. Fe ges i gymorth hefyd i addasu i fy nghartref a ’mhentref newydd gan fy mod mewn amgylchfyd newydd iawn.

Problem arall oedd y ddyled anferth oedd gen i pan symudais i i’r tŷ. Cynghorodd Hafan Cymru fi i fynd at CAB a gwneud cais am Orchymyn Rhyddhau o Ddyled (DRO) a, diolch byth, roedd hwnnw’n llwyddiannus. Fe ddylwn fod heb ddyled yn fuan iawn. Rwyf wedi cael cyfarfodydd cyson gyda fy ngweithwraig cymorth i wella fy sgiliau cyllido. Ces fy nysgu sut i fynd i wefannau arbed arian. Rwyf wedi cael cefnogaeth i ddeall fy hawliau a chyfrifoldebau tenant ac, yn rhyfeddol, rwyf wedi cadw fy nhenantiaeth. Rwyf wedi cwblhau cwrs Bod yn Barod a Symud Ymlaen, sydd, rwy’n deall, yn cael ei gydnabod gan yr awdurdod lleol yn arwydd fy mod yn gallu rheoli tenantiaeth. Rwyf bellach wedi cofrestru gyda’r Gofrestr Tai Gyffredin ac wedi mynd trwy’r broses i fynd ar y band uchaf yn y system ac, yn ddiweddar, rwyf wedi gwneud cais am fy eiddo fy hun.

Ro’n i’n dechrau dod ataf fy hun ac yn barod i drafod gyda rhagor o bobl yn y gwahanol asiantaethau. Rwyf wedi bod yn teimlo’n llawer hapusach sydd wedi cael effaith bositif ar fy iechyd meddwl. Fe ges i gloeon newydd a chloeon cadwyn ar ffenestri a system larwm newydd er mwyn teimlo’n saffach pan o’n i gartref ac rwyf wedi bod trwy asesiad risg trylwyr iawn ar gyfer bod mas yn y gymuned. Cymerais i ran hyn y Rhaglen Rhyddid sydd wedi rhoi dealltwriaeth ddyfnach i fi o sut y mae meddwl cam-driniwr yn gweithio a, bellach, byddaf yn gallu adnabod y math yma o ymddygiad mewn perthnasau yn y dyfodol.

Cyn bo hir, byddaf yn symud i fy nghartref fy hun ac rwyf wedi bod yn cael mwy a mwy o gyswllt gyda fy mhlant ers i mi fod yn byw mewn tŷ gyda chymorth. Rwy’n cael ar ddeall fy mod yn ymwneud yn bositif gyda’r gwasanaethau cymdeithasol sy’n fy ngwneud i’n hapus gan fy mod i’n gallu gweld y gwelliant ynof fi fy hun. Dim ond gobeithio y ca’ i’r plant yn ôl yn fuan. Mae taith i’w gwneud eto ond fydda’ i’n parhau i gyfarfod gyda’r gwasanaethau iechyd meddwl a cham-drin sylweddau. Cyn bo hir, byddaf hefyd mewn sefyllfa i gael gwaith, fel y galla’ i fy nghynnal i a fy mhlant. Rwyf wedi cael fy nghyfeirio at Cymunedau am Waith ble mae fy ngweithwraig cymorth wedi dweud y bydd gen i fentor a fydd yn fy nghefnogi trwy’r cyfan.

Diolch, Hafan Cymru. Rwyf ar fy ffordd i fod yn berson gwell.

Digwyddiadau Allweddol.

  • Ebrill 2016, Keepmoat yn ddewr iawn yn cymryd rhan mewn digwyddiad plymio awyr i godi arian at Hafan Cymru
  • Gorffennaf 2016 Hafan Cymru yn cynnal ein Cynhadledd Cleientiaid flynyddol yn Llandrindod
  • Medi 2016 Keepmoat ac Involve Recruitment yn noddi Dawns Masquer-aid Hafan Cymru gan godi bron £5000 – Masquer-aid Photos
  • Medi 2016 Hafan Cymru yn cynnal ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yng ngogledd Cymru yn y ‘Venue’
  • Medi 2016 aelodau o dîm Hafan Cymru yn codi mwy na £500 trwy redeg 10k Abertawe a Hanner Marathon Caerdydd
  • Hydref 2016 Hafan Cymru yn cyflwyno gwobr Gofalwr Ifanc y Flwyddyn i Britany Aleetza Bree Day yng Ngwobrau Cyflawnwyr Ifanc Radio Carmarthenshire.
  • Tachwedd 2016 LUSH yng Nghaerfyrddin yn cyfrannu 150 cwdyn anrheg i Hafan Cymru ar gyfer ein cleientiaid.
  • Rhagfyr 2016 derbyniodd y Weithwraig Gymorth Lisa Hope wobr gan Cymorth Cymru am fod yn gydweithwraig ysbrydoledig – roedd wedi cael ei henwebu’n gyfrinachol gan ei thîm.
  • Cafodd Sbectrwm wahoddiad i siarad gydag ASau mewn digwyddiad yn Nhŷ’r Cyffredin gyda Carolyn Harris AS.
  • Mawrth 2017 Oherwydd eu gwaith ar Berthnasau Iach, cafodd Sbectrwm sylw ar raglen S4C, Prynhawn Da, gyda chyfweliad byr ac arddangosfa adnoddau.
  • Mawrth 2017 Ysgol Uwchradd y Trallwng oedd yr ysgol gyntaf yng Nghymru i fentro ar Her Fenter a Chyflogadwyedd Bac Cymreig Sbectrwm (mae llawer wedi dilyn ers hynny!)
  • Mawrth 2017 Derbyniodd Men Shed’s Cymru Wobr glodfawr Uchel Siryf Dyfed i gydnabod gwaith eithriadol yn y gymuned.

Mae Keepmoat wedi bod yn ffodus iawn i godi arian at gystal elusen. Yn ogystal â bod yr arian yn cyfrannu at wneud gwahaniaeth go iawn i bobl sydd wedi eu heffeithio gan gam-drin domestig, mae staff Hafan Cymru wedi rhoi cefnogaeth lwyr i bob un o’n gweithgareddau.

Charli Hargreaves

Rheolwr Buddsoddi Cymunedol Keepmoat (Cymru a De-orllewin Lloegr)

Llwyfannau Cyfryngau Cymdeithasol Hafan Cymru – Facebook a Twitter Niferoedd

(Sawl tro y mae pobl wedi gweld un o’n negeseuon)

Ein Cleientiaid yn Dweud Wrthon Ni...

Image is not available
Image is not available
Slider

Sbectrwm.

Nod Prosiect Sbectrwm yw hyrwyddo pwysigrwydd Perthnasau Iach a chodi ymwybyddiaeth o blant, pobl ifanc ac oedolion am broblemau Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Mae Sbectrwm wedi gweithio gydag amrywiaeth eang o asiantaethau ledled Cymru i helpu mynd i’r afael â’r problemau hyn.

Rosalyn Evans, Rheolwraig – Rwy’n falch o’r ffaith fod y prosiect yn cyrraedd miloedd o blant a phobl ifanc bob blwyddyn, gan rannu negeseuon pwysig ynglŷn â cham-drin a chadw’n ddiogel. Rwy’n hoff iawn o’r prosiect oherwydd ei fod yn canolbwyntio ar blant ac yn rhoi plant a’u hawliau ynghanol popeth a wnawn. Eleni, rydym wedi tynnu rhaglen fwy cynhwysfawr at ei gilydd a datblygu pecyn darparu Agwedd Ysgol-gyfan ar gyfer ysgolion.

Sbectrwm.

Cyfanswm y plant a gyrhaeddwyd

Cyfanswm yr oedolion a gyrhaeddwyd mewn sesiynau i ddisgyblion

Cyfanswm y Sesiynau

Cafodd Sbectrwm ei grybwyll yn ffafriol yn adolygiad thematig Estyn am Perthnasau Iach

A fyddai rhagor o sesiynau o fudd – pam?

  • Disgybl CA3Achos byddai’n gallu helpu lleihau cam-drin domestig yn y dyfodol.
  • Disgybl CA3 – Achos gallwn ni ddysgu rhagor am sut i fod mewn perthynas saff

Beth oedd dy farn am y  sesiwn?

  • Disgybl CA3 – Da achos mae’r gweithgareddau’n hwyl.
  • Disgybl CA3 – Da iawn a nawr rwy’n deall beth yw cam-drin domestig.
  • Disgybl CA3 Roedd e’n dda achos ddysgais i lot o bethau newydd am gam-drin domestig.

Victoria Glanville –
Swyddog Cyswllt Ysgolion

  • Mae darparu gwersi Addysg Bersonol a Chymdeithasol i blant a phobl ifanc o bwys mawr gan ei fod yn sicrhau eu bod yn gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael os byddan nhw’n teimlo’n anniogel neu angen help.

Men’s Sheds Cymru.

Grwpiau cymdeithasol neu fentrau yw ‘Men’s Sheds’ sy’n cael eu sefydlu mewn cymunedau lleol er lles dynion sy’n unig, yn ynysig neu ag amser ar eu dwylo. Mae’r Prosiect yn cael ei gyllido gan Gronfa’r Loteri Fawr a’r nod oedd datblygu 25 o’r Men’s Sheds ar draws Cymru. Gwir nifer y grwpiau erbyn diwedd Mawrth 2017 oedd 34. Y disgwyl yw y bydd y rhif yma’n cynyddu i 38 erbyn diwedd y prosiect ym mis Awst 2017.

yn teimlo’n hapusach ar ôl ymuno â Shed

yn teimlo’n fwy o ran o’u cymuned

yn dweud bod y Shed yn gwella ansawdd eu bywyd

Lle maen nhw (yn nhrefn eu sefydlu):

Pen-y-bont ar Ogwr (Squirrels Nest), Glanyfferi, Doc Penfro, Y Rhyl, Caerdydd – Dusty Forge, Dyffryn Aman, Cilgeti, Llandudno, Bae Colwyn, Dinbych, Blaenau Ffestiniog, Prestatyn, Preseli, Llanrwst, Y Fenni, Porth, Caerdydd – The Den, Wrecsam – Prosiect Wharehouse, Veterans Llanddulas, Abergele, Llandrindod, Trefyclawdd, Caergybi Morlo, Shed Quarters Tondu, Saltney, Cydweli, Maesteg, Treorci, Banwen, Abertawe, Biwmares – Men’s Shed Seiriol, Caernarfon, Abercynon, Hirwaun

Men's Sheds Cymru.

Tachwedd 2016

Cydnabyddiaeth yng nghyhoeddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, “Canllaw i sefydlu clwb dysgu cymunedol” am fod yn ffordd ymarferol o greu grwpiau ar gyfer dysgu a chyfeillgarwch.

Rhagfyr 2016

Cyfweliad ar gyfer adroddiad am unigrwydd, ‘Trapped in a Bubble’ gan y Groes Goch Brydeinig a’r Gymdeithas Gydweithredol . Roedd hwn yn argymell mai cysyniad y Men’s Sheds oedd yr enghraifft ymarferol orau o gefnogaeth gymunedol adfywiol.

Ionawr 2017

Gwahoddiad i’r Senedd i gynnal cyfweliad Facebook Live, gyda Dr Dai Lloyd AC & Chadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, am unigrwydd a gwaith y Men’s Sheds.

Chwefror 2017

Dod i gytundeb i greu menter gydweithredol Men’s Sheds annibynnol a fydd yn llais ar ran y grwpiau yng Nghymru.

“R’yn ni’n wirioneddol falch o’r hyn y mae prosiect Men’s Sheds Cymru wedi ei gyflawni, o ran gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ac o ran perfformiad y prosiect. R’yn ni wrth ein bodd ein bod wedi cyrraedd ein targedau ymhell cyn pryd, wedi cynyddu ymwybyddiaeth o syniad Men’s Sheds tros Gymru gyfan ac wedi creu perthnasau gwaith da gyda rhanddeiliaid allweddol, megis Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru” – Rhodri Walters Uwch Reolwr Prosiect a Datblygu

“Dyw Sheds ddim ynglŷn â chynlluniau neu strategaethau ond yn gyfle i wneud rhywbeth ymarferol am broblem y gall unrhyw un ohonon ni ei hwynebu. R’yn ni’n gwybod y bydd llawer o unigolion yn elwa gyda phob grŵp newydd yr ’yn ni’n eu helpu i ddod o hyd i gyfeiriad a phwrpas." Swyddog Gweinyddol Men’s Sheds

Gwasanaethau Hyfforddi Hafan Cymru.

Mae Gwasanaethau Hyfforddi Hafan Cymru yn cynnig rhychwant amrywiol o hyfforddiant ar gyfer amrywiaeth eang o gwsmeriaid. Mae aelodau tîm ein Gwasanaethau Hyfforddi yn cydgysylltu’n agos gyda phob cwsmer i sicrhau bod yr hyfforddiant y maen nhw’n ei ddarparu’n cael ei deilwrio i gwrdd â’u hanghenion.

Yn ystod 2016/17 bu Gwasanaethau Hyfforddi Hafan Cymru’n gweithio mewn partneriaeth gyda VAWDASV Rhanbarthol Gwent (Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol) ac Awdurdod Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i gyflenwi cynllun peilot Llywodraeth Cymru, Hyfforddiant Gofyn a Gweithredu, a  gyda Cymorth i Fenywod Cymru i gyflenwi hyfforddiant am reolaeth drwy orfodaeth i’r heddlu.

Nifer y cyrsiau hyfforddi a gyflwynwyd gan ein hyfforddwyr cymwysedig.

Prosiect Symud Ymlaen – Cafodd y Prosiect Symud Ymlaen gyllid yn ystod 2016/17 gan yr Adran Waith a Phensiynau (DWP) a rhaglen Gynhwysiant Gweithredol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i gynnig cymorth mewn cyflogadwyedd ar gyfer unigolion di-waith yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr, Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.

Cronfa Cymorth Hyblyg DWP – Mae ein cynllun unigryw’n gosod staff profiadol wrth galon y ganolfan waith gan gynnwys gwasanaethau wedi’u teilwrio yn y fan a’r lle i gwsmeriaid Canolfannau Gwaith.

Nifer y bobl fu’n cymryd rhan yn y prosiect

450

Nifer y canlyniadau personol i bobl fu’n cymryd rhan

750

Gwasanaethau Hyfforddi Hafan Cymru.

Cynhwysiant Gweithredol – Eleni, rydym wedi ymwneud â 50 o unigolion sydd wedi cael canlyniadau positif, cymwysterau ac addysg bellach, gwirfoddoli a swyddi.

Hyfforddiant sy’n Canolbwyntio ar Fusnes – mae cyrff ledled Cymru wedi ein cyflogi i ddarparu hyfforddiant sydd wedi’i deilwrio at eu hanghenion nhw. Rydym wedi cael ymateb ardderchog gan y busnesau a’u staff ar bob agwedd o’r gwasanaeth gan Wasanaethau Hyfforddi Hafan Cymru:

Meddai Tai Wales & West –

“Mae gweithio gyda Jayne ac Ann-Marie yn Hafan Cymru wedi bod yn brofiad gwych o’r dechrau i’r diwedd. Fe gawson ni adborth da iawn gan ein staff o ran cynnwys yr hyfforddiant a sut y cafodd ei ddarparu. Byddem yn argymell Hafan yn gry’ ar gyfer darparu hyfforddiant ac r’yn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw ar brosiectau yn y dyfodol."

Dysgwch fwy trwy:

Twitter
@HCtrainingservices
Gwefan
http://www.hafancymru.co.uk/cy/cyrsiau-hyfforddi/gwasanaethau-hyfforddi-hafan-cymru/

Prosiectau Cynghorwyr Cam-drin Domestig Annibynnol (IDVA)

Mae Hafan Cymru’n rhoi cartref i sawl cynghorydd cam-drin domestig annibynnol o’r awdurdodau lleol, gan gynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth i bobl sydd wedi dod trwy drais gan bartner agos ac sy’n byw yn y gymuned. Mewn partneriaeth gyda Swyddfa Comisiynydd Trosedd a Heddlu Dyfed-Powys, awdurdodau lleol, Grŵp Gwalia, Fforwm Cam-drin Domestig Sir Gaerfyrddin a’r Swyddfa Brawf Genedlaethol.

ae’r IDVAau wedi cefnogi a chynghori

517

o fenywod a dynion ar draws Dyfed Powys, Conwy a Phen-y-bont ar Ogwr.

Mae ein prosiect Newid yn cynnig gwasanaethau llinell flaen i roi cymorth i bobl sydd wedi dioddef cam-drin domestig – rhai agored i niwed, sy’n risg uchel neu wedi dioddef sawl gwaith – a’u teuluoedd yn Nyfed Powys ac fe wnaethon ni gefnogi a chynghori 1187 o fenywod a dynion ym Mhowys, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Number of women and men supported and advised by Newid.

Wrth adael cymorth Hafan Cymru

o gleientiaid wedi adrodd am welliant o ran Iechyd a Lles

o gleientiaid yn teimlo’n fwy diogel ar ôl

o gleientiaid yn teimlo eu bod yn fwy galluog i gymryd rhan mewn hyfforddiant neu ddod o hyd i waith

o gleientiaid yn teimlo bod eu hyder a’u hunan-barch wedi cynyddu o ganlyniad i gymorth

o gleientiaid wedi adrodd am fwy o hyder wrth ofalu am eu plant

o gleientiaid yn teimlo’n fwy hyderus i fyw’n annibynnol a rheoli cartref

Pan ddes i gynta’ at Hafan Cymru, ro’n i’n rhy ofnus i ofyn am help – bellach dw i’n gallu gwneud hynny – Cleient o Gonwy

 

Mae cymorth gan Hafan Cymru wedi fy helpu i ddelio gyda fy salwch a phwysau yn ystod fy mhroblem gartrefu – Cleient Caerdydd

Helpodd Hafan Cymru fi i ddal ati i frwydro. Roedd gwybod bod rhywun ar fy ochr i yn rhyddhad rhyfeddol – Cleient Powys

Siop Un Stop Abertawe.

Stori cleient

“A finnau’n fam sy’n cael trafferth ariannol, sydd â phroblemau o ddiffyg hunan-barch a hynny’n fy rhwystro fi rhag darparu ar gyfer pen-blwydd fy merch yn ddeg oed (diffyg hyder o ran pobi etc), ges i amser braf iawn yn cloncan gyda fy ffrind y diwrnod cyn y pen-blwydd (ffrind newydd trwy ymweld â’r Siop Un Stop yn Abertawe). Nawr, tan yn gymharol ddiweddar, doedd gan y ffrind yma fawr ddim hyder na chred ynddi ei hun o ran coginio ac fe gynigiodd fy helpu fi pan oedd hi’n nos arna’ i! Fe benderfynon ni drefnu te parti bach a, gan fod rhaid i’w merch gael deiet heb wenith, fe greon ni’n dwy gyflenwadau o gacenni bach, di-glwten ac fel arall. Fe wnaethon ni hefyd gacen ben-blwydd fawr y byddai fy merch yn ei hoffi!

Er nad oedd gyda fi’r arian i brynu’r anrhegion y byddai hi’n eu mo’yn, yn lle hynny gawson ni ddiwrnod o hwyl a chwerthin gyda ffrindiau a chymdogion – oedd hyn yn fwy nag y bydden ni wedi gallu’i ddymuno a rwy’n teimlo y bydd hi’n cofio’r te parti yma am flynyddoedd eto.

O ran problemau gyda chyswllt iddo fe ar y dydd, fe gawson nhw’u cydnabod a’u hanwybyddu achos, am y tro cynta’, ro’n i’n teimlo bod gen i rym yng nghwmni ffrindiau a ’mod i’n annibynnol ar y sefyllfa (cam-drin), diolch Hafan Cymru.”

Yn 2016 cafodd Siop Un Stop Abertawe gyllid gan y Loteri Fawr ar gyfer Rheolwraig/wr a Chynorthwy-ydd Gweinyddol newydd i’r Ganolfan

Roedd gweithgareddau trwy gydol y flwyddyn yn cynnwys –

  • Ysgrifennu Creadigol
  • Sgiliau Cymorth Cyntaf Syml
  • Coffi a Chrefft
  • Equilibrium
  • Rhaglenni Camau Babi yr NSPCC
  • Ymwybyddiaeth ofalgar
  • Rhaglen Rhyddid
  • Camddefnydd Sylweddau
  • Rhaglen Meithrin
  • Clinig Homeopathi Rhad ac am Ddim
  • Clinig cyfreithiol
  • Cwnsela (trwy Apwyntiad)
  • Materion gwirfoddoli / grŵp gweu elusennol
  • Ioga

Digwyddiadau yn y Siop Un Stop yn ystod 2016

  • Diwrnod Rhuban Gwyn (dynion yn gwrthwynebu trais yn erbyn menywod)
  • Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
  • Bore Coffi Macmillan
  • Diwrnod Iechyd a Lles

Prosiectau Teuluoedd yn Gyntaf

Cynllun gan Lywodraeth Cymru yw Teuluoedd yn Gyntaf, sy’n caniatáu i awdurdodau lleol helpu:

  • pobl sydd yn oed gwaith mewn teuluoedd isel eu hincwm er mwyn cael gwaith a gweld cynnydd yn eu gwaith
  • plant, pobl ifanc a theuluoedd, mewn tlodi neu mewn peryg o fod mewn tlodi, er mwyn cyrraedd eu potensial
  • sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn iach ac yn teimlo’n dda
  • sicrhau bod teuluoedd yn hyderus, yn ofalgar, yn wydn a diogel

Mae pob awdurdod lleol wedi datblygu Cynllun Gweithredu Teuluoedd yn Gyntaf sy’n egluro sut y byddan nhw’n gweithredu Teuluoedd yn Gyntaf yn lleol ac rydym yn rhan o’r ddarpariaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Dinbych, gan roi cymorth i

yn yr ardaloedd hynny.

Lluniau o Daith Gerdded y Rhuban Gwyn 2016 yng nghanol tref Caerfyrddin. Taith Olau Cannwyll i gofio menywod sydd wedi colli eu bywydau o ganlyniad i drais gwrywod. Roedd mwy na 150 o bobl yno.

Ein Staff (Dyfyniadau a Llun).

Nifer staff

150

Ein Rheolwyr Gweithredu

“Rwyf wrth fy modd yn gweithio i Hafan Cymru am fy mod i’n rhannu’r un gwerthoedd o ran ymrymuso pobl i fod  yn rhydd rhag cam-drin ac i hyrwyddo’u hannibyniaeth. Rwy’n gweithio gyda thîm gwych o staff sydd hefyd yn rhannu’r gwerthoedd hynny i sicrhau canlyniadau positif iawn i’r unigolion sy’n cael ein cymorth.” – Jonathan Trubridge Rheolwr Gweithredu RhCT/CNPT ac Abertawe

“Dw i wedi bod efo Hafan Cymru ers 2005, a thros y blynyddoedd dw i wedi cael môr o wybodaeth a phrofiad a hynny wedi arwain fy llwybr a fy ymroddiad tuag at Hafan Cymru. Mae fy swydd bresennol yn Ddirprwy Bennaeth Gweithredu yn y Gogledd yn cynnig amrywiaeth mawr a golwg ar yr holl wasanaethau, gan ganiatáu i fi gefnogi cysondeb ar draws y busnes a darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i’n holl gleientiaid”– Sharon Smith Dirprwy Bennaeth Gweithredu, Gogledd Cymru

“R’yn ni’n teimlo ein bod yn cynnig rhwydwaith cymorth proffesiynol, gyda blynyddoedd o brofiad. Yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol, llawn empathi, heb farnu neb.” – Tîm Gweithredu Siop Un Stop Abertawe

“Mae pobl ifanc eisoes yn dysgu am berthnasau ond, yn anffodus, mae llawer o’r gwersi mwya’ pwerus yn dod o ddiwylliant pop sy’n gynyddol dreisgar a rhywiaethol. Mae’n hanfodol rhoi negesuon gwahanol iddyn nhw, negeseuon sy’n cynnig enghreifftiau positif o berthnasau iach, llawn parch; dyna beth yr ’yn ni’n ei gynnig yn Sbectrwm” – Sian Killa Swyddog Cyswllt Ysgolion Sbectrwm

“Rwy’n dal i chwilio am y geiriau iawn heblaw fy mod i ar ben fy nigon o glywed fod fy nghydweithwyr wedi fy enwebu fi ar gyfer gwobr y Cydweithiwr Ysbrydoledig, gan fy mod i’n credu mai’r holl ddefnyddwyr gwasanaethau a thrigolion ein llochesi yw’r ysbrydoliaeth go iawn. Eu gweld nhw’n trawsnewid eu bywydau gyda’n cymorth ni, dyma sy’n fy ngwneud i’n frwd tros fy ngwaith.”

(Lisa Hope o Hafan Cymru yn dangos Gwobr Cydweithiwr Ysbrydoledig Cymorth Cymru)

Diolch, cydnabyddiaeth a noddwyr.

I ddechrau, hoffen ddiolch i’n cleientiaid am weithio gyda ni i wella ein gwasanaeth a chynnig dull holistaidd wrth ymwneud â chleientiaid yn y dyfodol.

 

Yn ail, diolch anferth i’n staff, presennol ac yn y gorffennol. Chi sy’n gyfrifol am yr enw ardderchog sydd gan Hafan Cymru. Diolch am eich holl waith caled a chefnogaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Yn ogystal, allai Hafan Cymru ddim darparu ei gwasanaethau ardderchog heb gefnogaeth ein Bwrdd Rheoli gwirfoddol sy’n cael eu rhestru islaw.

Aelodau Bwrdd Rheoli 2016-2017:

John Morgan – Cadeirydd

Sarah Wydall – Is-Gadeirydd

Judith Lewis – Trysorydd

Steve Ray

Rachel Hughes

Jennie Ashford

Steve Morgan

Sian McKenna – wedi’i chyfethol Tachwedd 2016

Richard Batt – wedi’i gyfethol Tachwedd 2016

Richard Williams – wedi’i gyfethol Chwefror 2017

Bill Walden-Jones – wedi’i gyfethol Chwefror 2017

Jill-Hailey Harries – wedi’i chyfethol o Fwrdd CDAS Chwefror 2017

Rhian Davies – wedi ymddeol Medi 2016

Beverly Horrell – wedi ymddeol Medi 2016

Kathryn Williams – wedi ymddeol Chwefror 2017

Hoffem ddiolch hefyd i

Amie Chapman – Sylwedydd mewn cyfarfodydd Bwrdd ers Tachwedd 2016 (wedi’i mentora gan y   Cadeirydd)

Shirley Sansom – (Ein Llywydd Anrhydeddus)

Paul Thorburn – Llysgennad Newydd Hafan Cymru

Hoffem ddiolch i’n holl staff, rhanddeiliaid a Bwrdd Rheoli am eu hymrwymiad parhaus, eu teyrngarwch, eu cefnogaeth a’u hymroddiad – heb hynny allen ni ddim ymateb yn bositif i’r galw am ein gwasanaethau a’r farchnad gyfnewidiol – Sian Morgan Prif Swyddog Gweithredol a John Morgan, y Cadeirydd